Port Talbot
yn gwneud cais i fod yn
Dref Diwylliant gyntaf y DU
2028
MAE GENNYM STORI RYMUS I'W HADRODD!
Byddai ennill statws Tref Ddiwylliant yn newid popeth, gan ddyrchafu ein stori unigryw a phrofi nad yw Port Talbot yn cael ei diffinio gan ddiwydiant yn unig, byddai'n ennyd i ailosod canfyddiadau a llunio naratif newydd.
MAE PORT TALBOT
YN ARBENNIG
Casgliad o gymunedau mewn tirwedd wefreiddiol.
Yma, daw'r cymoedd i gwrdd â'r môr, daw hanes benben â diwydiant modern, ac mae treftadaeth gyfoethog yn sefyll ysgwydd ac ysgwydd â gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
Dyma le sy'n ysbrydoli'n reddfol. Efallai fod rhywbeth yn y dŵr sy'n llifo yn Afon Afan, oherwydd dyma le ble mae creadigrwydd yn treiddio'n ddwfn, mae dychymyg yn dod yn naturiol, a syniadau fel pe baen nhw'n symud yn gynt.

















MAE RHYWBETH YN Y DŴR YMA
YM MHORT TALBOT
Rydyn ni'n gymuned greadigol, wydn, gyda barddoniaeth ar ein tafodau a cherddoriaeth yn ein gwaed.
A nawr, mae hi'n amser dathlu'r cyfan sydd gan Bort Talbot i'w gynnig.
DEWCH I NI GEFNOGI'R CAIS DROS
BORT TALBOT TREF DIWYLLIANT 2028
CYFRIF I LAWR I GYFLWYNO EIN CAIS
TRI YMGEISYDD TERFYNOL.
UN ENILLYDD.
Bydd tri'n cael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol: un dref fach, un ganolig ac un fawr. Mae Port Talbot yn cystadlu fel tref ganolig.
Bydd y dref fuddugol yn derbyn gwobr o £3 miliwn i ddod â'u cais yn fyw a chreu rhaglen ddiwylliannol ffyniannus ar gyfer 2028. Bydd y ddau sy'n dod yn agos at y brig yn derbyn £250,000 yr un i ddatblygu rhaglen ddiwylliannol.
Gadewch i ni fod yn uchelgeisiol. Gyda'n gilydd, gallwn greu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau y gall ein tref eu mwynhau drwy gydol 2028 a thu hwnt. Gadewch i ni greu gwaddol diwylliannol parhaol i Port Talbot.