EIN TREF. EIN STORI.
BORT TALBOT TREF DIWYLLIANT 2028.
Mae Port Talbot Tref Diwylliant 2028: Ein Tref; Ein Stori yn gydweithrediad rhwng partneriaid cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol ledled Port Talbot a'r rhanbarth yn ehangach.
Mae Partneriaeth Ddiwylliant Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu fel Corff Cyflawni ar gyfer y cais, gyda chefnogaeth oddi wrth Gyngor Castell-nedd Port Talbot fel Corff Atebol.
GWYDDOM FOD EIN LLE WEDI BOD YN FFWRNAIS GREADIGOL I DDE CYMRU ERS AMSER MAITH.
Mae Port Talbot yn lleoliad sy'n llawn o wrthgyferbyniadau dramatig: cymoedd yn llithro i'r môr, treftadaeth a diwydiant yn gymdeithion balch i ddiwylliant a chreadigrwydd, a doniau byd-eang yn cael eu creu mewn cymunedau balch, croesawgar.







MAE PORT TALBOT AR DROTHWY NEWID ENFAWR.
Mae'r naratif cyffredinol ar gyfer ein tref yn ein darlunio fel lle sydd wedi colli cannoedd o swyddi, am weithwyr dur sy'n wynebu dyfodol anodd, am gymuned sy'n wynebu helynt, a man ble mae'r dirwedd yn bennaf yn ddiwydiannol.Â
Llanwyd agwedd ein cymuned at y newid hwn ag enghreifftiau o arloesi, creadigrwydd, positifrwydd, parch cyffredinol a chefnogaeth o'r ddeutu, ac ymdeimlad cryf o berthyn yn y lle a roddodd siâp i ni.
MAE PORT TALBOT WEDI BOD YN GROCHAN O GREADIGRWYDD ERIOED.
Gan gynhyrchu enwogion fel Burton, Hopkins a Sheen.
Mae ymwybyddiaeth ddiwylliannol adfywiol wedi annog twf mewn celf stryd, cerddoriaeth werin fodern, yr iaith Gymraeg a mwy o werthfawrogiad o bwysigrwydd diwylliant a chreadigrwydd i'n cymunedau.
Ond mae Port Talbot hefyd yn fan a ddiffinnir gan ddiwydiant trwm.




Yr Amserlen
Mae Ein Tref; Ein Stori yn dathlu'r dirwedd ddiwylliannol gyfoethog hon sy'n gartref i ni. Mae'n rhoi llais i'r bobl sy'n gwneud tirwedd ddiwylliannol Port Talbot mor groesawgar, mor llawn o ysbrydoliaeth, mor 'ni'.
Mae'r DU wedi dathlu Dinasoedd Diwylliant ers cryn amser, ac yn 2028, bydd y cyfle cyntaf i enwi Tref Diwylliant a derbyn gwobr o £3 miliwn i greu rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol fydd yn para blwyddyn.
Gwyddom fod gan Bort Talbot bopeth y mae'n ei gymryd i lwyddo.
Gyda diolch i'n partneriaid cais cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol.