Cysylltu

Port Talbot Ein Tref; Ein Stori yw ein cais ni i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf y DU yn 2028.

From O fis Medi 2026 hyd at ddyddiad cau cyflwyno'r cais ym mis Tachwedd 2026, byddwn ni'n cynnal ymgynghoriadau cymunedol, digwyddiadau a gweithdai i roi llais i'r gymuned. Rydyn ni eisiau clywed beth hoffech chi i ni ei gynnwys yn ein rhaglen ddiwylliannol ar gyfer 2028.

I rannu eich barn, dysgu mwy am y cais, neu ymholiadau cyffredinol eraill, cysylltwch â ni heddiw.

YMHOLIADAU CYFFREDINOL

YMHOLIADAU GAN Y CYFRYNGAU

TANYSGRIFIO

Ymunwch â'n rhestr bostio i wybod am ddigwyddiadau newydd a'n cynnydd gyda'r cais.

FREQUENTLY ASKED QUESTIONS

Beth yw Tref Diwylliant?

Mae Tref Diwylliant yn gystadleuaeth ar gyfer y DU i gyd sy'n dathlu lleoedd sydd â stori wych i'w hadrodd. MAe'n rhoi cyfle i drefi ddefnyddio diwylliant, creadigrwydd a balchder cymunedol i arddangos yr hyn sy'n eu gwneud nhw'n arbennig, gan ddod â phobl ynghyd drwy gyfrwng rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau.

Ar gyfer Port Talbot a Dyffryn Afan, mae'n gyfle i adrodd ein stori, dathlu pwy ydyn ni, a rhoi siâp ar beth ddaw nesaf.

Mae ymgeisio am gystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn digwydd rhwng nawr a mis Chwefror 2027, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2027.

Os byddwn ni'n llwyddiannus, byddai rhaglen Tref Diwylliant Port Talbot yn digwydd dros ryw chwe mis yn ystod 2028.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Bydd lleoedd ar y rhestr fel yn derbyn arian i gefnogi datblygu'r cais. Bydd y dref sy'n ennill yn derbyn gwobr o ÂŁ3 miliwn i gefnogi darparu'r cais, tra bo'r ddwy dref sy'n dod yn ail yn derbyn ÂŁ250,000.

Fe wnaethon ni ymgynghori gyda phobl ar draws cymunedau creadigol a diwylliannol Port Talbot ym mis Mawrth 2026 i helpu i ddiffinio cam mynegi diddordeb cyntaf y cais. Fe helpodd llais y gymuned gael Port Talbot ar y rhestr fer olaf o 15.

Bydd y cam ymgynghori nesaf hwn yn cyfrannu at y cais terfynol.

Na. Cynlluniwyd cais Tref Diwylliant Port Talbot i ddathlu straeon, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd yr ardal gyfan.

Enw'r rhaglen yw Port Talbot Ein Tref; Ein Straeon, ac mae wedi'i seilio o gwmpas tair thema, sef Adfywio, Perthyn a Chreadigrwydd. Mae perchnogaeth a chyfranogiad y gymuned a gwrando ar leisiau lleol a'u straeon yn egwyddor greiddiol i'r dull hwn.

Gallwch. Mae'r cais yn cael ei ddatblygu gan gadw ymgysylltiad y gymuned mewn cof a bydd cyfleoedd i bobl, grwpiau a sefydliadau i helpu i roi ffurf ar weithgaredd a'i gyflawni.

Os cofrestrwch chi i dderbyn cylchlythyr TD Port Talbot 2028, gallwch gael yr holl wybodaeth am gyfleoedd i ymgysylltu â'r rhaglen a'i llunio, ac os enillwn ni, bydd modd i bawb gymryd rhan.

Bydd. Os yw'r cais yn llwyddo, bydd cyfleoeddâ thâl i artistiaid, perfformwyr ac ymarferwyrcreadigol.

Rydyn ni'n credu y dylid gwobrwyogwaith creadigol yn deg, a bydd unrhywunigolion a chwmnĂŻau proffesiynol sy'ngweithio yn y rhaglen yn cael eu talu'n gywir ameu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd.

Bydd diweddariadau'n cael eu rhannu drwy gyfathrebiadau am y prosiect, gweithgareddau ymgysylltu a sianelau penodol ar lein wrth i'r cais ddatblygu. Os cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr, gallwch wybod y diweddaraf am y cyfleoedd i ymgysylltu â'r rhaglen a'i llunio, ac os enillwn ni, bydd modd i bawb gymryd rhan.

Byddwn. Ar ôl i'r broses ymgysylltu orffen, byddwn ni'n rhannu'r hyn a glywsom ni a sut y bu iddo helpu i roi siâp ar y cais.

Rydyn ni'n gweld hyn fel rhan o sgwrs barhaus hefyd. Rydyn ni eisiau adeiladu perthynas barhaus â phobl, creu cyfleoedd newydd, a defnyddio'r hyn a ddysgwyd drwy'r broses hon i helpu i ddatblygu gweithgaredd diwylliannol a chyfleoedd ar draws Port Talbot a'r fwrdeistref sirol yn ehangach dros y blynyddoedd i ddod.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r corff atebol am y cais, sy'n golygu fod yr Awdurdod Lleol yn helpu i gydlynu, cynllunio a datblygu'r cais ar gyfer Tref Diwylliant Port Talbot 2028 law yn llaw â'r gymuned. Mae Partneriaeth Ddiwylliannol Castell-nedd Port Talbot, sy'n dod â sefydliadau a rhanddeiliaid ynghyd o bob cwr o ardal Castell-nedd Port Talbot, yn gweithredu fel corff â throsolwg, gan sicrhau fod yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y cais yn cyd-fynd â'r hyn ddywedodd pobl Port Talbot y maen nhw eisiau'i weld yn digwydd. Gyda dull felly, pobl Port Talbot a Dyffryn Afan sy'n penderfynu beth sy'n cael ei gynnwys yn y cais.

Un o nodau'r rhaglen yw codi proffil yr ardal a denu mwy o ymwelwyr, ond fydd dim targedau penodol i gynyddu niferoedd ymwelwyr. Y prif ffocws yw darparu rhaglen o weithgaredd diwylliannol i ysbrydoli a denu'r bobl sy'n byw yma ac sy'n ystyried mai Port Talbot yw eu cartref.

Mae llawer o ffactorau'n gallu dylanwadu ar bisiau tai, gan gynnwys yr economi ehangach, cyfraddau llog ar farchnad dai yn lleol, Mae rhaglen Tref Diwylliant yn ymwneud â dathlu a buddsoddi mewn diwylliant a bywyd cymunedol, a dydyn ni ddim yn meddwl y bydd yn cael effaith uniongyrchol ar brisiau eiddo yn y tymor byr.

Mae'r rhaglen yn ceisio creu cyfleoedd i bobl a busnesau lleol. Er na ellir gwarantu unrhyw nifer penodol o swyddi, gall rhaglenni diwylliannol ar y raddfa hon gefnogi gweithgaredd a buddsoddiad economaidd.

Uchelgais craidd i'r rhaglen yw ysbrydoli a chefnogi pobl i feddwl yn uchelgeisiol am y cyfleoedd a all ddod yn sgil diwylliant. Law yn llaw â gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, fe allem weld creu cyfleoedd i ddatblygu llwybrau hyfforddi a sgiliau ochr yn ochr â phrofiad gwaith, yn enwedig i bobl ifanc.

Wrth i Bort Talbot barhau i addasu a newid. gallai'r rhaglen helpu i agor llwybrau i mewn i'r diwydiannau creadigol a gyrfaoedd cysylltiedig, gan helpu pobl ifanc i godi hyder, datblygu sgiliau newydd ac archwilio dyfodol gwahanol.

Mae Port Talbot yn un o blith 15 o fannau ar y rhestr fer o bob cwr o'r DU sy'n cystadlu i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028.

Y mannau eraill ar y rhestr fer yw Basildon, Penbedw, Corby, Great Yarmouth, Grimsby, Ilfracombe, Ynys Bute, Leith, Lerwick, Pontypridd, Rotherham, Sandown, Ward Canol Tref Stockton a Strabane.

Mae dod i'r rhestr fer yn rhoi Port Talbot ymysg grŵp cymharol fach o leoliadau sydd, ym. marn y beirniaid, yn meddu ar stori gref i'w hadrodd a'r potensial i ddarparu rhaglen ddiwylliannol uchelgeisiol.

Cafodd ardal y cais ei siapio o gwmpas cymunedau sy'n ystyried eu bod yn perthyn i Bort Talbot ac sy'n rhannu stori a hunaniaeth gyffredin.

Mae hyn yn cynnwys Port Talbot a'r rhan fwyaf o gymunedau Dyffryn Afan.

Mae'r cais yn canolbwyntio ar yr ardal sy'n rhannu'r hunaniaeth gyffredin a'r naratif cryfaf â Phort Talbot. Mae sawl tref a chymuned wahanol yn galw Castell-nedd Port Talbot yn gartref ac er y bydd y rhaglen derfynol a'r rhan fwyaf o'r gweithgaredd yn digwydd o fewn i ardal y cais, bydd cyfle i holl gymunedau, cwmnïau a sefydliadau Castell-nedd Port Talbot i gymryd rhan ac elwa.

Wrth gwrs. Dyw Tref Diwylliant ddim ar gyfer artistiaid, perfformwyr na gweithwyr creadigol proffesiynol yn unig. Diwylliant yw'r straeon a adroddwn, y mannau sy'n bwysig i ni, ein hanes a'n treftadaeth, ein tirwedd, chwaraeon, cerddoriaeth, iaith, bwyd, traddodiadau, cymunedau a phrofiadau beunyddiol.

Mae'n ymwneud i'r un graddau â cherdded drwy Ddyffryn Afan, cefnogi eich clwb lleol neu rannu atgofion am yr ardal ag ydyw ynghylch mynychu perfformiad. Does dim angen i chi fod yn artist i gymryd rhan. MAe'r rhaglen yn cael ei llunio o gwmpas pobl, lleoedd a straeon sy'n gwneud Port Talbot a Dyffryn Afan yn unigryw, a dylai pawb gael cyfle i gymryd rhan.

Does dim cynlluniau wedi'u cadarnhau eto i wneud newidiadau corfforol i gymunedau fel rhan o'r cais, ond rydyn ni'n disgwyl y bydd llawer o ddigwyddiadau lliwgar a chyffrous yn digwydd ar draws y rhaglen os llwyddwn ni. Mae'r ffocws ar hyn o bryd ar ddatblygu'r rhaglen ac ymgysylltu â chymunedau.

Os dewisir Port Talbot fel Tref Diwylliant y DU 2028, y gymuned ei hunan fydd yn dewis sut mae hynny'n digwydd a sut olwg fydd arno.

Er bod dim cynlluniau wedi'u cadarnhau eto ar gyfer gosodiadau celf gyhoeddus, bydd unrhyw gynnig i'r dyfodol, a phob cynnig yn cael ei ddatblygu gan ein cymunedau a'u rhannu fel rhan o broses gynllunio'r rhaglen

Na fydd. Nod allweddol i'r rhaglen yw gwneud diwylliant yn hygyrch a chynhwysol i bawb yn y gymuned. Rydyn ni am i'n holl gymunedau ar draws ardal y cais a'r sir fod yn gallu profi a mwynhau’r ystod o ddigwyddiadau a chyfleoedd a fydd yn dod yn sgil Tref Diwylliant.

Ydy. Mae'r cais yn dathlu diwylliant, treftadaeth, straeon a hunaniaeth yr ardal, law yn llaw â chreadigrwydd cyfoes ac uchelgais i'r dyfodol.

Mae ein treftadaeth yn rhan bwysig o bwy ydym ni a bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd i bobl archwilio, rhannu a dathlu'u straeon, eu traddodiadau a'u profiadau sydd wedi helpu i roi siâp ar ein cymunedau ar hyd y canrifoedd.

Tref Diwylliant yw enw'r peth. Fydd y sylw'n mynd yn bennaf i ganol tref Port Talbot? Na fydd. Er y bydd canol tref Port Talbot yn rhan bwysig o'r rhaglen, mae'r cais yn cynnwys cymunedau ledled Port Talbot a Dyffryn afan. Mae hyn yn cynnwys Port Talbot, Aberafan, Baglan, Bryn a Chwmafan, rhannau o'r Cimla a Phelenna, Cymer a Glyncorrwg, Gwynfi a Chroeserw, Margam a Thaibach yn ogystal â Gorllewin a Dwyrain Sandfields. Yr uchelgais yw dathlu pobl, lleoedd a straeon yr ardal gyfan, nid dim ond Port Talbot a chanol y dref.

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere