Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Tref Diwylliant Port Talbot 2028 yn defnyddio eich gwybodaeth a’r hawliau sydd gennych mewn perthynas â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Pwy ydym ni?
Mae gwefan a brand Tref Diwylliant Port Talbot 2028 yn eiddo i Wasanaeth Hamdden, Twristiaeth a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac o dan eu rheolaeth.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) sy'n gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer y data personol y mae’r Gwasanaeth Hamdden, Twristiaeth a Diwylliant (sy’n gyfrifol am hyrwyddo Tref Diwylliant Port Talbot 2028) yn ei gadw amdanoch chi.
Yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi.
Os ymunwch â’n rhestr bostio drwy lenwi ffurflen gofrestru ar www.porttalbottownofculture.wales byddwn ni'n gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
• Cyfeiriad e-bost (rhaid ei ddarparu)
• Cod post cartref (nid oes yn rhaid ei ddarparu)
Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth.
Os ymunwch â'n rhestr bostio drwy lenwi ffurflen gofrestru ar www.porttalbottownofculture.wales byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:
• Anfon cylchlythyr Tref Diwylliant 2028 Port Talbot 2028 a diweddariadau o bryd i'w gilydd at y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych.
• Os chi'n yn cydsynio i ni gysylltu â chi at ddibenion ymchwil, efallai yr anfonir holiaduron gwirfoddol atoch yn gofyn am eich barn ynghylch ymweld â'n gwefan a'n cyrchfan.
Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio mewn unrhyw e-bost a gewch gennym ni neu gallwch anfon e-bost atom at porttalbottoc@npt.gov.uk.
Byddwn ni'n defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol i anfon gwybodaeth atoch fel y nodir uchod.
Os byddwch chi'n rhoi eich cod post byddwn ni'n defnyddio’r wybodaeth hon at ddiben dadansoddi o ble y daw ein hymwelwyr a’n darpar ymwelwyr. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i gyfeirio deunyddiau marchnata a negeseuon e-bost at ardal ddaearyddol benodol.
Rydyn ni'n defnyddio system o'r enw Campaign Monitor neu Mail Chimp i ddosbarthu ein cylchlythyr ac anfon deunydd hyrwyddo atoch a allai fod o ddiddordeb i chi. Dim ond pan fyddwch chi wedi rhoi eich caniatâd i ddweud yr hoffech gael gwybod am ymweld â’r ardal y cesglir y data personol hwn.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu eich data personol yn ddiogel â’r trydydd partïon canlynol (h.y. sefydliadau y tu allan i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn unol â chytundebau rhannu data sydd ar waith rhwng y partïon a dim ond lle bo angen at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn:
• ReThink PR & Marketing, Ste 4, Pedwerydd Llawr, 11 Wind Street, Abertawe, SA1 1DP, i gynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata, cyfathrebu a hyrwyddo yn ymwneud â chais Tref Diwylliant Port Talbot 2028.
• Urban Foundry, The Engine Room @ HQ, Heol Alexandra, Abertawe, SA1 5AJ, i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu cymunedol, ymgynghori ac ymchwil i helpu i ddatblygu cais Tref Diwylliant Port Talbot 2028.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth ac am ba mor hir y byddwn yn ei chadw.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw eich caniatâd.
Byddwch chi wedi mynegi’r caniatâd hwn drwy ddewis blychau ticio perthnasol ar www.porttalbottownofculture.wales wrth gofrestru ar ein cronfa ddata.
Bydd y data a ddarparwyd gennych wrth gofrestru ar ein cronfa ddata yn cael ei storio yn ein cronfa ddata system bostio ddiogel am 2 flynedd ac ar yr adeg honno byddwn yn cysylltu â chi i ddiweddaru neu dynnu eich data o'r gronfa ddata. Fel arall, gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd drwy gysylltu â ni ar y manylion uchod.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth.
Sylwer, o dan GDPR, bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o ran eu data personol:
1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
2. Yr hawl i gael data anghywir wedi'i gywiro gan reolwr data.
3. Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).
Sut i gysylltu â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae CBSCNPT yn defnyddio eich gwybodaeth neu os hoffech gysylltu â ni i wneud cwyn am y defnydd o'ch gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CBSCNPT yn y cyfeiriad canlynol;
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ
Cwynion.
Os ydych chi'n credu nad ydym wedi trin eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data, codwch eich pryder gyda ni yn gyntaf. Rydym wedi ymrwymo i adolygu ac ymateb i'ch cwyn.
Contact us at:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 30 diwrnod ac yn darparu ymateb llawn, yn dilyn ein hymchwiliad, heb oedi gormodol.
Os ydych chi'n anfodlon â’n hymateb, gallwch gyfeirio eich cwyn at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod goruchwylio diogelu data annibynnol y DU:
Gwefan: www.ico.org.uk
Ffôn: 0303 123 1113
Post: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
Gallwch gysylltu â'r ICO ar unrhyw bryd, ond hoffem eich annog i gysylltu â ni gyntaf gan y gellir datrys llawer o bryderon yn sydyn ac yn anffurfiol.