Beth sy'n Digwydd

MAE ANGEN EICH MEWNBWN CHI AR EIN CAIS I FOD YN DREF DIWYLLIANT GYNTAF Y DU.

Mae Port Talbot yn sefyll ar ymyl pennod newydd gyffrous. Bydd ennill gwobr gyntaf Tref Diwylliant ar gyfer 2028 yn ein gweld ni'n darparu blwyddyn eithriadol o ddigwyddiadau uchelgeisiol, hwyliog o ansawdd uchel i'r gymuned gyfan eu mwynhau.
 
Ond mae angen eich help chi arnom i sicrhau fod 2028 yn flwyddyn sy'n adlewyrchu pawb ohonom, boed eich diddordeb ym maes cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth, chwaraeon neu unrhyw fath arall o ddiwylliant.
 
Drwy gydol proses gwneud y cais o fis Medi – Tachwedd 2026, byddwn ni'n cynnal digwyddiadau cymunedol i roi cyfle i chi leisio eich barn. 
 
Ymunwch â ni i roi ffurf ar y cais a rhoi eich barn am yr hyn sy'n peri fod diwylliant Port Talbot yn ffynnu.
 

Edrychwch ar ein digwyddiadau isod, ac os na allwch ymuno â ni yn bersonol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych drwy lenwi ein harolwg.

Methu â dod i'r digwyddiadau ymgysylltu? Gallwch gyfranu eich mewnbwn mewn ffordd arall. Rhannwch eich syniadau yma. 

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere